THE latest community news from Tanygrisiau

Ysgol Tanygrisiau

Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn yn yr ysgol, gyda llawer iawn o weithgareddau ar y gweill yn arwain fyny at y ‘Dolig.

Ffarwelio/Croeso

Yn ystod y tymor bu ffarwelio â Manon Williams, athrawes ddosbarth Meithrin a Derbyn ac bu croesawu Cerian O’Brien yn ei lle.

Mae Miss Williams bellach wedi ymgymeryd â dyletswyddau llawn amser yn Ysgol Maenofferen ac mae pawb yn dymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd.

Rygbi

Fel y gwyddoch mae swyddog datblygu rygbi wedi ei benodi yn ddiweddar, Erddyn Williams ac mae bellach yn ymwelydd wythnosol yn yr ysgol.

Yn wir, mae’r disgyblion i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ei ymweliadau ac yn cael pleser mawr wrth ddysgu sgiliau newydd.

Plant Mewn Angen

Unwaith yn rhagor ‘leni bu’r cyngor ysgol yn brysur iawn yn trefnu gweithgareddau Plant Mewn Angen.

Bu cynnwys ‘pawen’ bob un o blant yr ysgol yng nghyfri Aled Hughes (Radio Cymru) a chafwyd diwrnod o fwynhad gyda’r plant yn talu £1 i gael gwisgo dillad eu hunain ar gyfer disgo ac amrywiaeth eraill o weithgareddau a gynhaliwyd ar y diwrnod.

Casglwyd swm arbennig o £141 at yr achos.

Ffair Nadolig yr ysgol

Cynhaliwyd Ffair Nadolig yr ysgol ar 30 Tachwedd a chasglwyd y swm anhygoel o £570.

Diolchir yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at y ffair eleni, i Tesco Porthmadog am eu rhodd, ac yn arbennig hefyd i Dave, rheolwr Co-op, Blaenau Ffestiniog am roddi nifer fawr o rhôls a selsig hot dogs ar gyfer y stondin c?n poeth.

Yn y llun mae cynrychiolwyr y cyngor ysgol yn derbyn y rhoddion caredig hyn oddi wrth staff y Co-op.

Cinio Nadolig

Ar 13 Rhagfyr bu ymuno yn y ffreutur i gael cinio Nadolig gan Anti Delyth, Anti Vicky ac Anti Vicky (arall).

Mawr oedd y diolchiadau i’r dair am eu gwaith caled ar hyd y flwyddyn!

Sioe Cyw

Ar 17 Rhagfyr bu’r dosbarthiadau Meithrin a Derbyn yn ymweld â Sioe Nadolig Cyw ym Mhwllheli.

Cafwyd fore difyr iawn gyda’r plant i gyd wedi mwynhau.

Cyngerdd Nadolig

CYNHALIWYD cyngerdd Nadolig yr ysgol ar 18 Rhagfyr yn y prynhawn ac y nos.

Yr Arolygwyr Llety oedd y ddrama eleni a chafwyd hwyl a sbri yn paratoi at yr achlysur.

Sialens Rhedeg Noddedig

I godi arian i brynu offer TGch ychwanegol i’r ysgol, mae’r disgyblion, o’r Meithrin hyd at Bl 6 wedi bod yn brysur iawn yn casglu arian noddi.

Y darged oedd rhedeg 50 cilometr o amgylch trac rhedeg yr ysgol ac bu gweithredu hyn ar 3 Rhagfyr pan roedd yn tywydd yn ffafriol.

Unwaith eto, diolchir yn fawr iawn i bawb a fu’n cyfrannu a noddi’r disgyblion.

Diwrnod Siwmper Nadolig

Trwy law y cyngor ysgol bu’r disgyblion yn gwisgo eu siwmperi Nadolig ar 14 Rhagfyr a chasglu arian at yr elusen ‘Save the Children’.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]