THE latest community news from Rhydyfelin

Cymdeithas yr Hebog

CAFODD yr aelodau wledd ddiwylliannol ar Ddydd Mawrth Ynyd pan ddarparodd Ann M Davies arlwy o wybodaeth ddiddorol am feddyginiaethau llysieuol yn Festri Gosen.

Beti Wyn Emanuel gyflwynodd y traethydd sy’n cyfrannu Nodiadau Natur i’r papur bro lleol ac yn cefnogi amryw o weithgareddau yn yr ardal.

Canolbwyntiodd Ann M Davies ar y planhigion cynhenid a threuliwyd orig ddymunol wrth iddi sôn am nodweddion planhigion fel blodau’r gwenyn, llysiau’r ysgyfaint a saets.

Yn ogystal â llefaru’n huawdl am lysiau llesol, llwyddodd i osod y meddyginiaethau fel darn o jig-so mawr yn ymwneud â meysydd cysylltiol.

Adroddwyd chwedl Llyn y Fan a chlywsom am hynt a helynt Meddygon Myddfai a’r lawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Yr oedd dyfyniadau a hanesion yn cyfoethogi’r cyflwyniad. Ystyriwyd geiriau Crwys yn Y Border Bach: A’r llysiau tirf a berchid am eu lles yn fwy na’u llun.

Bu William Salesbury, gwr hynod o amryddawn, yn un o’r arloeswyr ym myd llysieuaeth.

Priodolir llysieulyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddarach i Salesbury.

Cyfeiriodd Ann M Davies yn gyson at arloeswr arall sef Culpeper.

Wrth iddi grybwyll a thynnu sylw at enwau llysieuol y planhigion amlygwyd ei dawn a’i phrofiad ym myd addysg.

Camwyd yn ôl ganrifoedd lawer i gyfnod Plini, un o ffisigwyr yr hen fyd, a gwelwyd dylanwad y derwyddon a’r mynachod ym myd meddyginiaethau.

Eglurwyd hefyd bod rhinweddau rhai o’r planhigion yn cael eu ystyried ar hyn o bryd wrth i ymchwil barhau i gyflyrau fel diffyg archwaeth bwyd.

Yr oedd straeon am feddyginiaethau gan yr aelodau yn brawf o’r blas a gafwyd yn ystod y noswaith a thalwyd y diolchiadau gan Nesta Edwards.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]