THE latest community news from Pwllheli
Aelwyd Chwiorydd Capel y Drindod
NOS Fawrth, 15 Hydref cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Aelwyd yr Hwyr.
Llwyddwyd gan Jane Lloyd ac wedi croesawu pawb, yn cynnwys aelod newydd, Bethan Hughes.
Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Megan Roberts a Lydia Jones.
Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Gwen Jones (Lodge).
Wedyn aethpwyd ymlaen i gyflwyno g?r gwadd y noson, sef Alun Jones, Chwilog.
Cafwyd noson ddiddorol yng nghwmni ‘Taid Tyn Gors, Llanarmon’.
Fe ddechreuodd ei yrfa fel gwas bach ym Mhwll Pompren, Rhosfawr. Bu hefyd yn gweithio yn lle Pyrs, Ffatri Laeth a Trawsfynydd.
Tanlinellwyd ei ddywediadau ffraeth ac fel yr oedd y byd gwaith wedi newid ers ei ddyddiau o. Wedi ymddeol bu’n trwsio peiriannau amaethyddol.
Diolchwyd i Mr Jones gan Enid Roberts. Roedd y te yng ngofal Gwenda a Pat.
Prynhawn Llun, 21 Hydref cynhaliwyd cyfarfod o Aelwyd y Prynhawn.
Llywydd y cyfarfod oeedd Liz Williams, cymerwyd y gwasanaeth dechreuol gan Morfydd Roberts. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Lydia Jones a Megan Roberts. Croesawodd Jean Williams yn ôl a hefyd Megan Parry, aelod newydd.
Yna croesawyd Sara Roberts, un sy’n gweithio dros y ffoaduriaid yn Celais. Amlinellodd sut yr oedd hi arnynt. Mae’r llefydd salaf yn y wlad hon yn well na’r hyn sydd ganddynt. Cafodd ychydig o flancedi gwau i’w hanfon iddynt.
Diolchwyd iddi gan Morfydd Roberts. Roedd y baned yng ngofal Dilys Jones ac Elsie Hughes.
Cymanfa Werin
GWIREDDWYD breuddwyd Mair Williams, sy’n ysgrifennydd rhaglen Merched y Wawr yng nghangen Pwllheli, oherwydd yng nghyfarfod mis Tachwedd fe gynhaliwyd Cymanfa Codi’r To.
Gwahoddwyd aelodau o bob cangen yn y rhanbarth i ddod ynghyd i ganu caneuon gwerin, dan arweiniad medrus Gwenan Gibbard a’i thelyn.
Cafwyd cymorth bywiog gan Mandi Morfydd ar y piano ac Edwin Humphreys ar y clarinet a buom yn morio canu ac yn codi’r to!
Mari Evans oedd yn llywyddu a chafwyd gair ac ambell i gân gan Dafydd Iwan.
Gwnaed elw o £400 i Gronfa Genedlaethol William Salesbury, cronfa a oedd yn agos iawn at galon Merêd, y byddwn yn dathlu canmlwyddiant ei eni ymhen y mis.
Yr ydym fel cenedl yn drwm yn ei ddyled o a’i wraig Phyllis Kinney am gasglu a diogelu cymaint o alawon a chaneuon gwerin i ni.
Capel y Drindod
GWENER, 15 Tachwedd: 10yb, Cyfarfod Gweddi Undebol.
Sul, 17 Tachwedd: 10yb a 5yh, gweinidog; Ysgolion Sul fel arfer; 7yh, Oedfa’r Ddwy Ofalaeth.
Llun, 18 Tachwedd: 2yp, Aelwyd y Chwiorydd; 6yh, Clwb y Plant; 7.30yh, Cyfarfod Gweddi neu Seiat yr Ofalaeth.
Mawrth, 19 Tachwedd: 7yh, Y Sied.
Mercher, 20 Tachwedd: 7yh, Clwb Ieuenctid.
WI
THE AGM was held on 5 November at the Ala Road Chapel Vestry chaired by Elin Rhys Williams of the Gwynedd Federation.
The president and officers were confirmed and topics sought for the next year.
The tea hostesses were Sian Evans and friends and the raffle, donated by Ann Owen was won by Helen Owen.
The next meeting will be at 7pm on 3 December at the Witches Brew Station Square with a presentation by Paul Linney.
New members always welcome.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]