THE latest community news from Lledrod
Dosbarth Tabor
AR ddiwrnod braf o wanwyn, sef 19 Mai, cynhaliwyd y Gymanfa Ganu yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod.
Cafwyd dwy oedfa fendithiol iawn yng nghwmni ein harweinyddes wadd, Catrin Wyn Hughes o Lanelli, er fod llawer ohonom y ei chofio yn Bronant.
Llywydd y prynhawn oedd Rhiannon Parry, Bwlch-dal-owen. Estynnodd groeso i’r arweinyddes a galwodd ar Dafydd Caio i roi’r emyn gyntaf.
Er nad oedd ond 16 o blant yn bresennol, roeddent yn gwybod yr emynau i gyd ac yn ymateb yn wych i Catrin. Diolch i Jane Hughes (mam Catrin) am ddod a phedwar o’i disgyblion canu i’n cynorthwyo. Diolch i Judith Jones, Beryl Jones a Nerys Parry am eu dysgu.
Mwynhawyd anerchiad amserol Rhiannon, oedd wedi ei selio ar logo’r Urdd. Gwyddai y plant fod y lliwiau yn golygu – ffyddlon i Gymru, cyd-ddyn a Christ.
Casglyddion y prynhawn oedd Lois Rhiannon a Dafydd Caio. Cafwyd te hyfryd rhwng y ddwy oedfa, wedi ei baratoi gan wragedd Rhydlwyd.
Am 6yh, cafwyd Gymanfa’r oedolion o dan lywyddiaeth Beti Griffiths, Lleifior gyda Dr Ioan Williams yn gwneud darlleniad. Cafwyd anerchiad ddiddorol gan Beti, a’r anogaeth oedd i ddal ati, er ein bod yn gweld y gynulleidfa yn lleihau.
“Cadwch y brigyn yn ir ac fe ddaw yr adar bach yn ôl i ganu”.
Cawsom ganu bendigedig dan arweiniad medrus Catrin Hughes. Diolch i’r ffyddloniaid o ddosbarthiadau eraill a ddaeth i’n cynorthwyo. Roedd y blodau i harddu’r capel yn roddedig gan Ann George, Garth Fawr.
Talwyd y diolchiadau gan Richard Woolley. Gwerthfawrogwn yn fawr arweinyddion y rihyrsals, sef Beti Wyn Emanuel, Judith Jones ag yn ymuno â hwy eleni oedd Efan Williams. Cyfeilyddion y rihyrsals a’r oedfaon ar y dydd oedd Marion Hopkins-Williams, Beti Griffiths, Bethan Hopkins-Williams a Meinir Jenkins.
Braint oedd cael cyflwyno llechen wedi ei hysgythru fel arwydd o’n diolch i Beti Wyn Emanuel am arwain y rihyrsals am dros 40 mlynedd (yn y llun uchod). Ffrwyth y rihyrsals yw Cymanfa dda, a dyna beth a gawsom yn Rhydlwyd eleni.
Gorffenwyd y ddwy oedfa gyda’r Fendith Apostolaidd.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]