THE latest community news from Llanddeiniol
Cymdeithas Ddiwylliannol yr Hebog
‘RHAI o Gymeriadau’r Mynydd Bach’ oedd testun sgwrs Rheinallt Llwyd yn Festri Elim ar yr ail nos Fawrth o’r flwyddyn newydd.
Cadeirydd y Gymdeithas, y Parch Nicholas Bee, groesawodd a chyflwynodd y siaradwr.
Tywyswyd yr aelodau trwy gyfrwng llun ar y sgrîn i bentrefyn Llangwyryfon.
Yma y cartrefodd Rheinallt Llwyd am gyfnod helaeth ar ddechrau saith degau’r ganrif ddiwethaf.
Cyfeiriodd at y newidiadau dirfawr a welwyd o ran y tirlun ac a brofwyd gan drigolion yr ardal.
Diddorol oedd y sylwadau a wnaed am gyfraniad a dylanwad teuluoedd.
Erys yr hanesyn am natur aelodaeth y cyngor cymuned a’r patrwm a fabwysiadwyd am flynyddoedd lawer yn fyw yn y cof.
Heb os llwyddwyd i ennyn chwilfrydedd y gynulleidfa oherwydd dawn gynhenid Rheinallt Llwyd i draethu’n rhwydd.
Elfen amlwg o fywyd rhai pobl yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn y pentrefyn oedd yr arfer o ymgynnull mewn llefydd amrywiol.
Soniodd am y cymdeithasu yn y gweithdy ym Morfa Du a’r crynhoi gyda’r hwyr yn un o siopau’r fro.
Pump o gymeriadau’r cylch oedd canolbwynt y cyflwyniad a chyfoethogwyd yr hanesion oherwydd y cyfle i weld lluniau ohonynt.
Awgrymodd Rheinallt Llwyd y gwelwyd diwedd yr hen oes wrth i’r ardal weddnewid.
Yn sicr bu mewnlifiad helaeth o fewn ffiniau’r hen blwyf a chafwyd dadansoddiad treiddgar o’r gymdeithas a esblygodd ar y Mynydd Bach.
Nododd gyfraniad Peter Lord a Jez Danks i’r gymuned a thu hwnt, gan bwysleisio doniau creadigol rhai o’r mewnfudwyr.
Adnabyddiaeth; gwybod pwy yw pwy neu beth yw beth.
Dyma oedd sail llwyddiant cyflwyniad Rheinallt Llwyd a thalwyd y diolchiadau gan Ieuan Parry.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]