THE latest community news from Garndolbenmaen.
Cymdeithas Undebol Capel y Porth a Jerwsalem
CYNHALIWYD cyfarfod olaf tymor llwyddiannus iawn o’r Gymdeithas nos Lun, 5 Mawrth yng Nghapel y Porth.
Croesawyd ein gwr gwadd, y Parch Ddr Huw John Huws, gan lywydd y noson, Gwen Rees Jones, yn gynnes gan ei ddisgrifio yn ysgolhaig disglair ac amryddawn, yn athro, prifathro, darlithydd, Pregethwr a sefydlydd Pili Palas.
Testun y ddarlith oedd “Hanes cynnar yr Ysgol Sul yng Nghymru”. Darlith sych, anniddorol meddech chi. Dim o gwbl.
Trafodwyd y ddarlith gyda ffeithiau difyr a chryn hiwmor.
Cafwyd hanes sut aeth Griffith Jones Llanddowror ati i ddysgu plant ac oedolion i ddarllen y Gymraeg a sefydlu’r Ysgolion Cylchynol. Dyma sefydlydd yr ysgolion Cymraeg cyntaf, y plant yn cael eu dysgu am y tro cyntaf yn eu mamiaith.
Seren newydd a ymddangosodd yn hwyrach yn y ganrif oedd Tomos Charles a gafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.
Cawsom hanes difyr iawn sut y daeth Tomos Charles i ymgartrefu yn Y Bala a hynny oherwydd cyfarfod â merch o’r dref a symud ati ar ôl bod yn gweinidogaethu yng Ngwlad yr Haf am bedair blynedd.
Difyr oedd cael dehongliad o’r llythyrau caru rhyngddynt a sut yr aeth Tomos Charles ati i ddysgu’r plant i ddarllen, mewn ffordd syml ond hynod o effeithiol.
Gosodwyd sylfeini drwy’r ysgolion Sul mewn Duwioldeb, Moesoldeb a Gostyngeiddrwydd. Llwyddodd y darlithydd i gynnal diddordeb y gynulleidfa trwy gydol y ddarlith.
Diolchwyd i’r llywydd a’r siaradwr gan ein gweinidog, y Parch Christopher Prew gan ddweud cymaint roedd wedi mwynhau’r ddarlith. Diolch i Susan, y swyddogion a’r pwyllgor am drefnu rhaglen mor ddiddorol ac amrywiol ar ein cyfer.
Trefnwyd ar y cyd gyda Merched y Wawr i recordio Talwrn y Beirdd yng Nghapel y Porth nos Fawrth, 15 Mai.
Fe fydd y Gymdeithas yn dathlu Gwyl Ddewi yn Y Golff, Morfa Bychan nos Wener, 16 Mawrth, gydag adloniant gan y Band Arall.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]