Mae'r awdur a'r cyflwynydd coginio Colleen Ramsey wedi gwneud pennod arbennig, Nadoligaidd o'i chyfres goginio Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd.

Yn cynnwys gŵr Colleen, capten tîm pêl-droed Cymru Aaron Ramsey, ei mam a’i chwaer, mae’r rhaglen yn dangos Colleen yn paratoi gwledd ar gyfer ei hoff amser o’r flwyddyn.

“Pwy sydd ddim yn caru'r Nadolig? Dyma'r amser mwyaf bendigedig o'r flwyddyn,” meddai Colleen. “Mae dathlu’r Nadolig gartref yn golygu’r byd i mi a fy nheulu. O ddewis coeden i addurno’r tŷ a lapio anrhegion – mae popeth yn fy nghyffroi.”

Ac nid yw Dydd Nadolig ei hun yn ddim gwahanol.

“Mae pawb yn dod i fy nhŷ ac rydw i wrth fy modd â hynny oherwydd rydw i eisiau bod yn Mrs Christmas. Ar y diwrnod mae’n ymgyrch filwrol, mae gan bawb swydd i’w gwneud.”

Yn y rhaglen arbennig hon, mae Colleen yn rhannu ei ryseitiau ar gyfer corgimychiaid ac eog wedi’i fygu, danteithion Nadolig i'r plant, canapés a thro clyfar ar fins peis. “Dw i wedi trio lot o fins peis,” meddai Colleen. “Mae gen i syniad beth allwn ni ei wneud yn wahanol gyda nhw”.

Hefyd ar y fwydlen mae stwffin Nadolig i gystadlu yng nghystadleuaeth stwffin teulu Colleen o dan feirniadaeth Aaron ei hun, a threiffl tiramisu y mae Colleen yn ei wneud gyda'i chwaer Roisin.

Peidiwch â disgwyl unrhyw opsiynau ysgafnach, meddai Colleen. “Rwy’n teimlo bod pob rysáit Nadolig yn dechrau gyda llwyth o fenyn. Mae'n Nadolig, come on!"

Mae teulu Colleen yn flaenllaw drwy gydol y rhaglen, sy’n adlewyrchu sut mae’r teulu bob amser yn dathlu.

“Mae Mam a Dad yn fy helpu yn y gegin – dwi'n dweud eu bod nhw'n fy helpu, bydden nhw'n dweud fy mod i'n eu helpu nhw. Mae'n anodd gwybod pwy yw bos,” meddai Colleen.

“Mae swydd Aaron yn golygu bod rhaid i ni weithiau ddathlu penblwyddi neu hyd yn oed Dydd Nadolig ar ddiwrnod gwahanol. Weithiau rydyn ni'n cael y Nadolig yn hwyr neu'n hwyrach. Does dim ots pryd, cyn belled â’n bod ni’n ei ddathlu gyda’n gilydd a’n bod ni i gyd o amgylch y bwrdd.”

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Barn Media ar gyfer S4C