Mae CFfI Meirionnydd wedi cyrraedd carreg filltir arall o ddathlu 80 mlynedd - tipyn o gamp i sir fechan ond braf ydi gweld y mudiad yn mynd o nerth i nerth. Yn sicr roedd rhaid dathlu’r achlysur felly penderfynwyd cael dathliad.
Ar nos Wener 30ain o Fehefin cafwyd noson o ddathlu gydag aelodau, chyn aelodau a theulu’r mudiad ym Mryn Arms, Gellilydan. Thema’r noson oedd 'black tie' a wir i chi mae pob ffarmwr yn gallu sgrwbio fyny weithiau!
Cafwyd gwledd o fwyd sef carferi, roedd yn flasus tu hwnt. Roedd pawb yn mwynhau dal fyny ar ôl yr holl flynyddoedd ac edrych ar hen luniau a blwyddlyfrau’r sir. Ar ôl y bwyd daeth Tri Gog a Hwntw i ddiddanu a phawb yn mwynhau canu ar y cyd.
Cafwyd toriad yn y canol a chael ocsiwn addewidion, Dafydd un o aelodau’r sir o glwb Cwmtirmynach oedd yr arwerthwr, braf ydi cael gweld aelodau yn barod i gymryd rhan. Gwerthwyd 10 eitem a chasglwyd dros £700 i’r sir.
Gorffennwyd y noson gyda thamaid o gacen gan Eirian Cil y Coed a disco bach gan DJ Maj.
Yn ystod y dathlu cyflwynwyd anrheg i Elain gan ei bod yn gadael ei swydd fel trefnydd sir ddiwedd Gorffennaf.
Dymuna Elain ddiolch yn fawr iawn am bob cefnogaeth dros y blynyddoedd ac yn dymuno pob llwyddiant i CFfI Meirionnydd i’r dyfodol.
Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus iawn i CFfI Meirionnydd ymlaen am y degawd nesaf!