Daeth prysurdeb y Rali unwaith eto eleni i Glybiau Ffermwyr Ifanc Meirionnydd, gyda’r holl glybiau yn paratoi ac ymarfer cyn y diwrnod mawr.
Ond cystadlaethau barnu stoc oedd yn gyntaf er mwyn sicrhau marciau i’r clybiau cyn diwrnod y rali. Cafwyd noson o farnu gwartheg godro yn Rhiwlas ar 16eg o Fai. Diolch yn fawr iawn i Iwan Jones am y croeso ac am gael defnyddio’r stoc yn ogystal â beirniadu.
Yna ar brynhawn dydd Sul 21ain o Fai cafwyd barnu defaid Cymreig, defaid Charolais a gwartheg duon Cymreig ar Fferm Gesail, Bryncrug. Braf oedd gweld llond lle o aelodau yn cystadlu yn enwedig y rhai wnaeth ymdrechu i ddod gyda chryn dipyn o gur pen ar ôl dathlu ym mhriodas un o gyn aelodau’r sir y noson cynt. Diolch yn fawr iawn i Deulu Fferm Gesail am y croeso ac am y stoc ac i Ken Ellis am feirniadu’r gwartheg duon, Llion Jones am feirniadu’r defaid Charolais ac i Meilir Jones am feirniadu’r defaid Cymreig. Ymlaen wedyn i orffen y prynhawn ar Fferm Erw Faethlon i feirniadu moch Cymreig. Diolch i deulu Erw Faethlon am y croeso ac am y moch ac i Gareth Evans am feirniadu.
Gydag ychydig o farciau ar y sgor-fwrdd, ymlaen i’r diwrnod mawr yn Pall Mall, Tywyn ar 17eg o Fehefin. Deg mlynedd yn ddiweddarach, tro Bryncrug oedd gwestio eleni gyda diolch iddynt am y gwaith paratoi yn enwedig i deulu Pall Mall sef Dwynwen a Richard Vaughan am y lleoliad a’r croeso.
Thema’r Rali eleni oedd ‘ Y Syrcas’. Cafwyd diwrnod gwerth chweil gyda’r tywydd a phawb wrth eu boddau gyda’r fan hufen ia! Braf oedd gweld aelodau yn cystadlu, yn mwynhau a chymdeithasu. Roedd gwledd o adloniant i’w weld ar y llwyfan yn ogystal â sied y cynnyrch, o waith crefft, i osod blodau a choginio. Ac wrth gwrs uchafbwynt y diwrnod i sawl aelod oedd y gystadleuaeth tynnu rhaff.
Ar ôl diwrnod hir o gystadlu gorffennwyd y diwrnod gyda seremoni gwobrwyo, gyda phawb ar binnau i glywed pwy oedd yn mynd a hi! Llywyddwyd y seremoni gan Mair Huws, llywydd sir a’r diolchiadau gan Iolo Evans, cadeirydd y rali.
Cyn cyhoeddi’r enillydd roedd sawl gwobr i’w cyflwyno gan Catrin Owen, cadeirydd Sir. Cyflwynwyd gwobr i bob clwb fuodd yn cystadlu - yn ôl ein record ni, doedd hyn erioed wedi digwydd o’r blaen, felly braf iawn oedd gweld pob clwb yn cael tlws i fynd adre gyda nhw.
Ond y brif darian oedd tarian y Rali sef y clwb uchaf ei farciau ar ddiwedd y dydd, ar clwb buddugol oedd y clwb gwestio sef clwb Bryncrug. Llongyfarchiadau mawr iawn iddynt ar eu llwyddiant, tipyn o gamp ydi gwestio ac ennill ar dir eu hunain. Diolch yn fawr iawn i bob beirniad am eu parodrwydd i gefnogi’r diwrnod yn ogystal â phob stiward a phawb fuodd yn cymryd rhan a helpu mewn unrhyw ffordd, heb deulu’r mudiad ni fyddai’r diwrnod wedi bod yr un mor llwyddiannus!
Cafwyd Dawns yn Pall Mall ar ddiwedd y dydd gydag Aeron Pughe yn ein diddanu a DJ Jonathan Kendall, yn sicr roedd yr aelodau yn haeddu diod neu ddau i ddathlu a thorri syched ar ôl diwrnod llawn cystadlu!
Gorffennwyd y penwythnos gyda Chymanfa Ganu yng Nghapel Bethel Newydd gydag Iwan Parry yn arwain a Tudur P Jones ar yr organ. Cafwyd darlleniad gan aelodau Clwb Bryncrug, braf oedd gweld aelodau yn cymryd rhan. Diolch i Iwan am ei waith paratoi yn dewis yr holl emynau ac i bawb am gefnogi ar ddiweddu penwythnos llwyddiannus. Tro Clwb Maesywaen ydi gwestio’r Rali flwyddyn nesa, edrychwn ymlaen at weld bwrlwm cystadlu unwaith eto! Pob hwyl i’r holl aelodau sydd yn cynrychioli’r sir yn y sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.
Canlyniadau’r Rali:
BARNU GWARTHEG DUON CYMREIG 16 OED NEU IAU: 1, Morgan Jones, Cwmtirmynach; 2, Eifion Jones, Sarnau; 3, Iestyn Jarman, Dinas Mawddwy
BARNU GWARTHEG DUON CYMREIG 18 OED NEU IAU:
1, Cai Jones, Cwmtirmynach; 2, Sara Jones, Bryncrug
BARNU GWARTHEG DUON CYMREIG 21 OED NEU IAU:
1, Elgan Roberts, Bryncrug; 2, Hari Jones, Cwmtirmynach; 3, Deio Roberts, Cwmtirmynach
BARNU GWARTHEG DUON CYMREIG 28 OED NEU IAU:
1, Deio Williams, Cwmtirmynach; 2, Richard Jones, Bryncrug; 3, Dafydd Davies, Cwmtirmynach
BARNU DEFAID CYMREIG 16 OED NEU IAU: 1, Lowri Jarman, Glannau Tegid; 2, Morgan Jones, Cwmtirmynach; 3 Celyn Rees, Bryncrug
BARNU DEFAID CYMREIG 18 OED NEU IAU: 1, Sara Jones, Bryncrug; 2, Cai Jones, Cwmtirmynach
BARNU DEFAID CYMREIG 21 OED NEU IAU: 1, Hari Jones, Cwmtirmynach; 2, Twm Morris, Bryncrug; 3, Iolo Evans, Bryncrug
BARNU DEFAID CYMREIG 28 OED NEU IAU: 1, Deio Williams, Cwmtirmynach; 2, Dafydd Davies, Cwmtirmynach; 3, Richard Jones, Bryncrug
BARNU DEFAID CHAROLAIS 16 OED NEU IAU: 1, Morgan Jones, Cwmtirmynach; 2, Ioan Jones, Sarnau; 3, Eifion Williams, Sarnau
BARNU DEFAID CHAROLAIS 18 OED NEU IAU: 1, Sara Jones, Bryncrug; 2, Cai Jones, Cwmtirmynach
BARNU DEFAID CHAROLAIS 21 OED NEU IAU: 1, Iolo Evans, Bryncrug; 2, Elgan Roberts, Bryncrug; 3, Twm Morris, Bryncrug
BARNU DEFAID CHAROLAIS 28 OED NEU IAU: 1, Deio Williams, Cwmtirmynach; 2, Richard Jones, Bryncrug; 3, Dafydd Davies, Cwmtirmynach
BARNU MOCH CYMREIG 16 OED NEU IAU: 1, Morgan Jones, Cwmtirmynach; 2, Eifion Williams, Sarnau; 3, Dafydd Thomas, Sarnau
BARNU MOCH CYMREIG 18 OED NEU IAU: 1, Ffion Evans, Bryncrug; 2, Cai Jones, Cwmtirmynach; 3, Sara Jones, Bryncrug
BARNU MOCH CYMREIG 21 OED NEU IAU: 1, Hari Jones, Cwmtirmynach; 2, Iolo Evans, Bryncrug; 3, Twm Morris, Bryncrug
BARNU MOCH CYMREIG 28 OED NEU IAU: 1, Guto Huws, Prysor ac Eden; 2, Dafydd Davies, Cwmtirmynach; 3, Richard Jones, Bryncrug
BARNU GWARTHEG GODRO 16 OED NEU IAU: 1, Ioan Jones, Sarnau; 2, Eifion Williams, Sarnau; 3, Ifan Morris, Sarnau
BARNU GWARTHEG GODRO 18 OED NEU IAU: 1, Cai Jones, Cwmtirmynach
BARNU GWARTHEG GODRO 21 OED NEU IAU: 1, Iolo Evans, Bryncrug; 2, Elgan Roberts, Bryncrug; 3, Deio Roberts, Cwmtirmynach
BARNU GWARTHEG GODRO 28 OED NEU IAU: 1, Ifan Davies, Cwmtirmynach; 2, Guto Huws, Prysor ac Eden; 3, Dafydd Davies, Cwmtirmynach
ARDDANGOSFA FFEDERASIWN: 1, Bryncrug; 2, Glannau Tegid; 3, Cwmtirmynach
LLYFR LLOFFION: 1, Maesywaen; 2, Prysor ac Eden; 3, Sarnau
GWAITH COED 28 OED NEU IAU:
1, Elis Garmon a Wil Roberts, Glannau Tegid; 2, Richard Jones a Twm Morris, Bryncrug; 3, Eirug Roberts a Elgan Roberts, Bryncrug
GWAITH COED 18 OED NEU IAU: 1, Tomos Jones a Daniel Davies, Prysor ac Eden; 2, Jac Jones a Gethin Rowlands, Cwmtirmynach; 3, Eifion Williams a Ioan Jones, Sarnau
CNEIFIO 21 OED NEU IAU: 1, Ieuan Breese, Bryncrug; 2, Cai Jones, Cwmtirmynach; 3, Ynyr Rowlands, Cwmtirmynach
CNEIFIO 28 OED NEU IAU: 1, Huw Jones, Bryncrug; 2, Lewis Jones, Glannau Tegid; 3, Deio Williams, Cwmtirmynach
TRIN GWLAN 28 OED NEU IAU: 1, Gwenno Williams, Dinas Mawddwy; 2, Ifan Davies, Cwmtirmynach; 3, Begw Jones, Cwmtirmynach
CREFFT 16 OED NEU IAU: 1, Tesni Roberts, Maesywaen; 2, Llio Iorwerth, Prysor ac Eden; 3, Jack Celyn, Cwmtirmynach
COGINIO 21 OED NEU IAU: 1, Lili a Lia, Cwmtirmynach; 2, Cain a Sara, Bryncrug; 3, Elain ac Eleanor, Bryncrug
GOSOD BLODAU 28 OED NEU IAU: 1, Cain Pugh, Bryncrug; 2, Catrin Jones, Cwmtirmynach; 3, Fflur Davies, Glannau Tegid
HYRWYDDO EICH CLWB: 1, Prysor ac Eden; 2, Bryncrug; 3, Cwmtirmynach
ARDDANGOS SGIL SYRCAS: 1, Mared a Cadi, Prysor ac Eden; 2, Tesni Pugh a Magi Jones, Dinas Mawddwy; 3, Eifion Jones a Rhys Roberts, Bryncrug
ARDDANGOSFA’R PRIF CYLCH ‘CROESO I’R SYRCAS’: 1, Bryncrug; 2, Cwmtirmynach
CANU (UNIGOL): 1, Lois Wyn, Dinas Mawddwy; 2, Elain Iorwerth, Prysor ac Eden; 3, Lleucu Arfon, Cwmtirmynach
CANU (GRŴP): 1, Cwmtirmynach; 2, Prysor ac Eden; 3, Bryncrug
DAWNSIO: 1, Dinas Mawddwy; 2, Cwmtirmynach; 3, Prysor ac Eden
SIALENS SGILIAU AR Y SPOT: 1, Maesywaen; 2, Dinas Mawddwy; 3, Bryncrug
GWISGO FYNY: 1, Ffion a Sioned, Prysor ac Eden; 2, Ffion a Celyn, Bryncrug; 3, Glain a Glesni, Dinas Mawddwy
GÊM Y CENEDLAETHAU: 1, Alys ac Efa, Maesywaen; 2, Ffion a Sioned, Prysor ac Eden; 3, Tesni a Gwenith, Maesywaen
AIL-GREU PENNOD NEU SGETS ENWOG O RAGLEN DELEDU NEU FFILM: 1, Sarnau; 2, Cwmtirmynach; 3, Bryncrug
TYNNU’R GELYN - IAU: 1, Prysor ac Eden; 2, Dinas Mawddwy; 3, Glannau Tegid
TYNNU’R GELYN - MERCHED:
1, Bryncrug
TYNNU’R GELYN - BECHGYN: 1, Bryncrug; 2, Cwmtirmynach; 3, Prysor ac Eden
ARWYDD RALI - SIR: 1, Dinas Mawddwy; 2, Cwmtirmynach; 3, Sarnau
LLYFR COFNODION - SIR: 1, Sarnau; 2, Dinas Mawddwy; 3, Glannau Tegid
LLYFR TRYSORYDD - SIR: 1, Cwmtirmynach; 2, Maesywaen; 3, Sarnau
GOSOD BLODAU 18 OED NEU IAU - SIR: 1, Martha, Glannau Tegid; 2, Leonara Nesbitt, Bryncrug; 3, Lliwen Jones, Glannau Tegid
COGINIO 31 OED NEU IAU - SIR: 1, Ffion Prysor, Prysor ac Eden; 2, Glain Jenkins, Dinas Mawddwy; 3, Ieuan Jones, Cwmtirmynach
CREFFT 31 OED NEU IAU - SIR: 1, Ruth Jones, Dinas Mawddwy; 2, Lowri Roberts, Glannau Tegid; 3, Ifan Davies, Cwmtirmynach
SIALENS CADEIRYDD - SIR: 1, Ruth Jones, Dinas Mawddwy; 2, Dewi Pugh, Bryncrug; 3, Guto Huws, Prysor ac Eden
CNEIFIO GWELLAU - SIR: 1, William Jones, Bryncrug; 2, Richard Jones, Bryncrug; 3, Ifan Davies, Cwmtirmynach
ADNABOD DARNAU PEIRIANNAU 18 OED NEU IAU - SIR: 1, Gruff Jenkins, Dinas Mawddwy; 2, Aled Williams, Prysor ac Eden; 3, Gethin Roberts, Bryncrug
ADNABOD DARNAU PEIRIANNAU 31 OED NEU IAU - SIR: 1, Eirug Roberts, Bryncrug; 2, Rhys Roberts, Bryncrug; 3, Huw Jones, Bryncrug
ADNABOD NODAU CLUSTIAU 18 OED NEU IAU - SIR: 1, Ffion Evans, Bryncrug; 2, Ioan Jones, Sarnau; 3, Ifan Morris, Sarnau
ADNABOD NODAU CLUSTIAU 31 OED NEU IAU - SIR: 1, Gwion Jones, Dinas Mawddwy; 2, Ruth Jones, Dinas Mawddwy; 3, Dafydd Davies, Cwmtirmynach
IT’S A KNOCKOUT - SIR: 1, Maesywaen 1; 2, Bryncrug 2; 3, Cwmtirmynach 2
CWRS CI DEFAID DALL - SIR: 1, Ifan Davies a Cai Jones, Cwmtirmynach; 2, Ifan a Gwendal Davalan, Dinas Mawddwy; 3, Gwion Williams a Robat Davies, Prysor ac Eden
TRAWS GWLAD - SIR: 1, Dewi Pugh, Bryncrug; 2, William Roberts, Glannau Tegid; 3, Robat Davies, Prysor ac Eden
CICIO PÊL DRWY TYLLAU - SIR: 1, Rhys Roberts, Bryncrug; 2, Mared Griffiths, Prysor ac Eden; 3, Huw Jarman, Dinas Mawddwy
CANLYNIADAU TARIANNAU
CWPAN JOHN G EVANS – Clwb Marciau Uchaf yn y Barnu Stoc: Cwmtirmynach
CWPAN COFFA EILIR WYN PARRY – Clwb Marciau Uchaf yn y Barnu Stoc dan 21 oed: Bryncrug a Cwmtirmynach
CWPAN PRYSOR AC EDEN – Buddugol yn y Gem Cenedlaethau: Alys ac Efa, Maesywaen
CWPAN SEFYDLIAD Y MERCHED – Marciau Uchaf yn yr adran Goginio: Cwmtirmynach
TARIAN BETHAN DYFFRYNGLYNCUL – Ysgoloriaeth Goginio i’r gystadleuaethcoginio 21 oed neu iau: Lili a Lia Cwmtirmynach
CWPAN GWEN – Clwb Marciau Uchaf yn yr adran Gosod Blodau: Glannau Tegid
TLWS COFFA DENNIS GUEST – Buddugol yn y gystadleuaeth Hyrwyddo eich Clwb: Prysor ac Eden
CWPAN ENID - Clwb buddugol gyda’r Llyfr Lloffion: Maesywaen
CWPAN H R DAVIES – Clwb buddugol yn yr Arddangosfa Ffederasiwn: Bryncrug
CWPAN CWM – Clwb Buddugol yn y Crefft dan 16 oed: Tesni Roberts, Maesywaen
TLWS TYN Y FACH – Buddugol yn yr Adnabod Nodau Clustiau 18 oed neu iau: Ffion Evans, Bryncrug
TLWS CEFN UCHAF – Buddugol yn yr Adnabod Nodau Clustiau 31 oed neu iau: Gwion Jones, Dinas Mawddwy
CWPAN WENNA – Clwb buddugol yn y gwisgo fyny: Ffion a Sioned, Prysor ac Eden
CWPAN HEDD A SIAN – Clwb buddugol yn y Gwaith coed: Elis a Wiliam, Glannau Tegid
CWPAN MIXC – Dawnsio: Dinas Mawddwy
CFFI MEIRION (CWPAN MENAI) – Buddugol yn y gystadleuaeth ‘Croeso i’r Syrcas’: Bryncrug
CWPAN AERON PRYSOR – Buddugol yn yr gystadleuaeth ‘Arddangos sgil Syrcas’: Mared a Cadi, Prysor ac Eden
TLWS BRENDA NANT HIR – Buddugol yn Arwydd y Rali: Dinas Mawddwy
CWPAN LISTER – Marciau uchaf yn yr adran gneifio: Bryncrug
CWPAN SIOE SIR – Marciau Uchaf yn y tynnu rhaff: Bryncrug
CWPAN IEUENCTID – Clwb Marciau Uchaf dan 21 oed: Bryncrug
CWPAN RHYS A MAIR – Clwb marciau uchaf dan 16 oed: Sarnau
CWPAN R GWILYM WILLIAMS – 2il yn y Rali: Cwmtirmynach
TARIAN RALI – I’r clwb uchaf ei farciau: Bryncrug
CANLYNIAD TERFYNNOL: 1, Bryncrug; 2, Cwmtirmynach; 3, Prysor ac Eden; 4, Dinas Mawddwy;
5, Glannau Tegid; 6, Sarnau; 7, Maesywaen