Eisteddfod Gadeiriol
DAETH dau fachgen ifanc lleol yn fuddugol yn y ddwy brif seremoni yn Eisteddfod Gadeiriol Chwilog. Hyfrydwch oedd cael tystio bod Eisteddfod Gadeiriol Chwilog a gynhaliwyd ar 23 Ionawr wedi denu llu o gystadleuwyr o bell ac agos, gyda’r safon yn uchel iawn. Mae’r pwyllgor yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gafwyd gan yr ysgol leol. Derbyniwyd saith ymgais ar gyfer cystadleuaeth y gadair, ar y testun cymodi a’r bardd buddugol oedd bachgen ifanc 18 oed, sef Iestyn Tyne, Boduan. Hon oedd ei chweched cadair. Yn ogystal, mae wedi ennill 10 Tlws yr Ifanc, a’r gyntaf oedd yn Eisteddfod Chwilog ddwy flynedd yn ôl. Ymgeisiodd wyth yng nghystadleuaeth Tlws yr Ifanc dan 19 oed a’r enillydd oedd Gruffydd Rhys Davies, Chwilog. Yn flynyddol cyflwynir tarian i’r cystadleuy-dd uchaf ei safon yn y cystadlaethau llenyddol sy’n gyfyngedig i’r ysgol leol a’r enillydd oedd Lowri Glyn Jones.Yn flynyddol, rhoddir cwpan a rhodd ariannol gan Manon a’r plant er cof am Dr Gwion Rhys i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yng nghyfarfod y prynhawn a’r enillydd oedd Deio Llyr, Llandwrog. Yn ogystal, yng nghyfarfod yr hwyr, rhod-dwyd gwobr o £50 i’r cystadleuydd llwyfan mwyaf addawol ym marn y beirniaid yn yr oedran rhwng 15 a 25 a’r enillydd oedd Catrin Mair Parry, Pwllheli.Y llywydd oedd Dafydd Alun Jones, Llanbadarn Fawr. Arweiniwyd y gweithgareddau gan Alun Jones, Heledd Williams, Rhian Williams a Linda Williams.Y beirniaid oedd: Cerdd a Cherdd Dant: Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre, Rhydaman.Llefaru a Barddoniaeth: Y Prifardd Tudur Dylan Jones, Caerfyrddin.Llenyddiaeth: Menna Baines, Bangor.Arlunio: Therese Urbanska, Rhydyclafdy.Cyfeilyddion: Catrin Alwen, Chwilog a Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn.Swyddogion y pwyllgor: cadeirydd, Margaret Jones; is-gadeirydd, Delyth Davies; trysorydd, Mari Jones; ysgrifennydd, Gwyn Parry Williams. Canlyniadau: Cerdd: Bl Derbyn ac iau, Enid Gwilym, Chwilog; Bl 1 a 2, Deio Rhys, Llanarmon; Bl 3 a 4, Elliw Evans, Chwilog; Bl 5 a 6, Lowri Glyn Jones, Chwilog.Unawd Alaw Werin, Bl 6 ac Iau, Cadi Jones, Glanrafon, Corwen; Unawd Cerdd Dant Bl 6 ac iau, Cadi Jones, Glanrafon, Corwen; Bl 7, 8 a 9, Deio Llyr, Llandwrog.Unawd Cerdd Dant Bl 7, 8 a 9: Lois Gwynedd, Glanrafon, Corwen. Parti Unsain Bl 6 ac Iau: Ysgol Chwilog.Unawd Alaw Werin Bl 7, 8 a 9: Lois Gwyn-edd, Glanrafon, Corwen. Unawd Piano i Ddechreuwyr: Sam Steele, Llangybi. Unawd Piano Bl 6 ac Iau: Lowri Glyn Jones, Chwilog.Unawd Offerynnol Chwyth neu Linynnol Bl 6 ac Iau: Sam Steele, Llangybi. Unawd Offerynnol Chwyth neu Linynnol Bl 7 a hyn: Deio Llyr, Llandwrog, Unawd Bl 10-13: Cana Roberts, Porthmadog. Deuawd Lleisiol Agored: Seimon Menai ac Ann Williams.Cân Allan o Sioe Gerdd: Catrin Mair Parry, Pwllheli. Unawd dan 25: Catrin Mair Parry, Pwllheli.Cân Werin neu Faled tros 15: Alaw Tecwyn, Rhiw. Canu Emyn tros 55: Arthur Wyn Parry, Groeslon.Unawd Cerdd Dant tros 15: Catrin Mair Parry, Pwllheli. Unawd Gymraeg: Erfyl Jones, Aberhosan.Prif Unawd: Erfyl Jones, Aberhosan,Parti Merched/Meibion/Cymysg: Merched Eifionydd. Côr Cymysg, Ensemble Lleisiol, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: Côr Eifionydd. Llefaru: Bl Derbyn ac Iau, Enid Gwilym, Chwilog; Bl 1 a 2, Deio Rhys, Chwilog; Bl 3 a 4, Elliw Evans, Chwilog; Bl 5 a 6, Lowri Glyn Jones, Chwilog; Bl 7, 8 a 9, Rhian Owen, Bontnewydd; Parti Llefaru Bl 6 ac Iau: Ysgol Chwilog; Bl 10-13, Owain Rhys, Llanarmon; Parti Llefaru, Parti Cafflogion, Mynytho.Llenyddiaeth: Derbyn ac Iau (Ysgol Chwilog): Mali Enfys Williams; Bl 1 a 2 (Ysgol Chwilog), Euros Sion Evans; Bl 3 a 4 (Ysgol Chwilog), Beca Llwyd; Bl 5 a 6 (Ysgol Chwilog), Lowri Glyn Jones (Tarian); Bl 5 a 6, Neb yn deilwng; Bl 9 ac Iau, Heledd Eryri Jones, Groeslon; Tlws yr Ifanc dan 19: Gruffydd Rhys Davies, Chwilog; i bob oed, erthygl (agored), Gwilym Hughes, Mynytho.Barddoniaeth: Cerdd y Gadair, Iestyn Tyne, Boduan; Englyn, R Owen, Llanfairtalhaearn; Englyn Ysgafn. John Ffrancon Griffith, Abergele; Telyneg, Iestyn Tyne, Boduan; Cân Ddigrif, R Owen, Llanfairtalhaearn.Arlunio: Meithrin a Derbyn, Ela Gwen Williams, Chwilog; Bl 1 a 2, Alannah Thomas, Chwilog; Bl 3 a 4, Moi Williams, Chwilog; Bl 5 a 6, Loti Jones, Chwilog.