Mae dwy flynedd o gerddi, cerddoriaeth a chreadigrwydd ar droed i blant dros Gymru gyfan wrth i’r gantores, cyfansoddwraig ac awdur o ardal Bangor, Casi Wyn, gael ei phenodi yn Fardd Plant Cymru ar gyfer 2021-2023.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar ddydd Mercher, sef Diwrnod Barddoniaeth – dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol. Cyhoeddwyd hefyd mai’r awdur ac actor, Connor Allen sydd wedi ei benodi yn Children’s Laureate Wales 2021-2023.
Mae’r ddau brosiect yn rhedeg ochr yn ochr, gyda’r beirdd yn cyfrannu at feithrin cenhedlaeth o ysgrifenwyr a darllenwyr mwy creadigol, amrywiol a iach. Byddant yn gweithio’n bennaf â phlant rhwng 5-13 oed.
Penodwyd Casi Wyn i’r rôl yn dilyn galwad agored lwyddiannus ym mis Mai 2021. Rheolir prosiect Bardd Plant Cymru gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Mae Casi Wyn yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt fel cantores a chyfansoddwraig. Mae ei chaneuon Aderyn, Dyffryn, ac Eryri yn cael eu chwarae’n gyson ar orsafoedd radio ledled Prydain.
Mae Casi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol. Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Dangoswyd ei ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.
Meddai Casi Wyn: “Does dim grym tebyg i lenyddiaeth a cherddoriaeth, dyma sy’n ein uno ni fel dynoliaeth.
“Mae rôl Bardd Plant Cymru yn un mor eang a dwi’n edrych ‘mlaen i gyfarfod amrywiaeth o blant a phobl ifanc hyd a lled y wlad.