CYNHELIR Eisteddfod Gadeiriol Chwilog yn Neuadd Goffa Chwilog prynhawn a nos Sadwrn, 20 Ionawr.
Y beirniaid yw: Cerdd a Cherdd Dant - Nia Clwyd, Llandeilo; Llefaru - Dyfrig Davies, Llandeilo; Barddoniaeth a Llenyddiaeth - Y Prifardd Guto Dafydd, Pwllheli; Arlunio - Bethan Llwyd, Chwilog.
Cyfeilyddion: prynhawn - Catrin Alwen Jones, Chwilog; hwyr - Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn
Llywydd: Felicity Roberts, Rhydypennau.
Yr wythnos diwethaf cafodd cadair yr Eisteddfod ei chyflwyno i’r pwyllgor gan John Tollitt, Chwilog sy’n ymgymerwr angladdau, ond sy’n mwynhau gwaith coed yn ei amser hamdden.
Hon yw’r pumed cadair yn olynol iddo ei chyflwyno i’r Eisteddfod yn Chwilog ac mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn iddo am ei gefnogaeth.
Am fanylion pellach am yr Eisteddfod, cysylltir â’r ysgrifennydd, Gwyn Parry Williams, Rhoseithin, Chwilog, Pwllheli LL53 6TF (ffôn: 01766 810717).