Eleni, mae’n 500 mlynedd ers i grefft y mesurau cynganeddol (‘cerdd dafod’) gael ei chydnabod a’i safoni yn Eisteddfod Caerwys 1523.
Mae’n etifeddiaeth unigryw Gymreig, sy’n cael ei harfer heddiw mor fyw ag erioed. Heb os mae’n destun balchder cenedlaethol, ac yn rheswm llawen i ni ddathlu. Felly, mae Barddas, Y Gymdeithas Cerdd Dafod, am gynnal ei Gŵyl Gerallt flynyddol eleni ar benwythnos 24-26 Tachwedd yng Nghaerwys a’r cyffiniau.
Fel rhan o’r Ŵyl, digwyddiad pwysig ac unigryw fydd cadeirio pencerdd Eisteddfod Caerwys 2023.
Y prifeirdd Mererid Hopwood a Myrddin ap Dafydd fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth a’r testun am gerdd gaeth hyd at 150 llinell ydy ‘Etifeddiaeth.
Bydd cadair arian yn wobr, wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer yr achlysur.
Mae’n gystadleuaeth gwbl agored – gall Tudur Aled a Iolo Morganwg anfon cerdd os ydyn nhw’n dal ati i farddoni! Mae manylion y gystadleuaeth a’r dyddiad cau ar wefan www.barddas.cymru
Hefyd, fel rhan o’r Ŵyl, bydd cyfle i fynd i Neuadd Mostyn, lle mae cadair arian a memrwn y sgrôl wreiddiol i alw’r beirdd i Gaerwys ganrifoedd yn ôl, a chael cyflwyniadau am yr achlysur a’r traddodiad.
Bydd gweithdai a sesiynau trafod i feirdd yng Nghaerwys, a chyfle cyn ac yn ystod yr Ŵyl i’r plant cynradd gael cwmni creadigol Bardd Plant Cymru, ac i ieuenctid gymryd rhan mewn gornest Talwrn y Beirdd. I gloi’r Ŵyl, bydd ‘Ymryson 5 can mlynedd’ yn Llanelwy rhwng beirdd o fri ein cyfnod ni, o dan reolaeth ganoloesol y Prifardd Twm Morys a Gruffudd Antur, meurynod newydd yr Ymryson yn yr Eisteddfod Genedlaethol.