Bob blwyddyn ers ei sefydlu, mae côr Bois y Gilfach wedi bod yn dewis achosion da lleol a chenedlaethol i’w cefnogi.
Yn ystod y deng mlynedd cyntaf, llwyddodd y côr i godi cyfanswm o £17,500 er budd achosion da a oedd yn cynnwys Canolfan y Bont Llambed; Calonnau Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon; RABI; Ward Meurig, Ysbyty Bronglais; Parkinson’s Cymru; Beiciau Gwaed Cymru; Ambiwlans Awyr Cymru; Uned Gemotherapi, Ysbyty Bronglais a Chwlwm Cof Ceredigion (elusen sy’n ymwneud â gofal dementia).
Pan ddaeth yn bryd dewis elusen ym mis Medi 2022, penderfynodd y côr gefnogi Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r elusen honno’n agos iawn at galonnau’r bois oherwydd cysylltiad y côr â theulu Penlanlas Isaf, Talsarn. Cafodd Anest, merch Elin ac Emyr (un o denoriaid Bois y Gilfach), ofal arbenigol am saith mis yn Ysbyty Arch Noa yn ystod 2019/2020 ac mae’n dal i ymweld â’r ysbyty yn achlysurol.
Ym mis Ionawr eleni, daeth cyfle i griw o’r bois a ffrindiau’r côr fynd am drip i Ysbyty Arch Noa i drosglwyddo’r swm anhygoel o £16,000.
Fel côr, hoffem ddiolch yn fawr i bawb am bob cymorth, cefnogaeth a chyfraniad ariannol a’i gwnaeth yn bosibl i ni drosglwyddo swm mor anrhydeddus i’r elusen. Ond nid dyna’r cyfan. Yr eisin ar y gacen oedd bod y swm hwnnw wedi’i ddyblu i £32,000 ym mis Rhagfyr 2024 drwy ymgyrch arbennig gan Ysbyty Arch Noa cyn y Nadolig, sef “The Big Give Christmas Challenge”.

Diolch yn fawr i gynrychiolwyr yr elusen am eu croeso cynnes ac am roi o’u hamser i sôn wrth bawb am waith yr ysbyty sy’n gofalu am 90,000 o blant bob blwyddyn.
Roedd yr ysbyty’n ddiolchgar dros ben i’r côr, nid yn unig am godi arian ond hefyd am godi ymwybyddiaeth. Bydd yr arian a drosglwyddwyd yn mynd i Apêl “Sparkle” yr ysbyty, sy’n canolbwyntio ar ddod ag ychydig o lawenydd a hwyl i fywydau pobl sy’n treulio amser yno.
Mae gweithgareddau’r apêl yn cynnwys dathlu achlysuron arbennig, gofalu am les rhieni yn yr ysbyty a chynnig gweithgareddau y gall cleifion eu mwynhau gyda’u teuluoedd.
Yn dilyn yr ymweliad â’r ysbyty, cafwyd cyfle i gymdeithasu yng nghanol Caerdydd cyn troi am adre a mwynhau swper ar y ffordd yn Llangennech.
Mae’r bois wedi bod yn brysur unwaith eto ers mis Medi 2024 yn diddanu cynulleidfaoedd ledled Ceredigion, a’r achos da y maent wedi dewis ei gefnogi eleni yw’r Uned Ddialysis yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. Edrychwn ymlaen at barhau i ganu a mwynhau yn ystod 2025!