Cafodd Janet Evans o Llambed syrpreis arbennig gan iddi gael ei henwebu i dderbyn rhodd o flodau unigryw ar y raglen deledu Y ‘Sgubor Flodau yn ddiweddar a hynny i ddlolch iddi am ei gwaith diflino gydag ieuenctid yr ardal ers dros deugain mlynedd.

Mae Janet nid yn unig yn athrawes weithgar yn yr Ysgol Sul yng Nghapel Noddfa, yn trefnu oedfaon i’r ifanc, yn ddiacones ac yn organyddes ond hefyd mae’n parhau i arwain Aelwyd yr Urdd a threfnu gweithgareddau amrywiol i’r aelodau.

Yn ogystal mae’n aelod gwerthfawr o nifer o fudiadau yn yr ardal ac yn canu gyda chôr lleol sef Bytholwyrdd.

Llongyfarchiadau mawr Janet a diolch o galon am eich cyfraniad gwerthfawr i ieuenctid ardal Llambed ac i’r gymuned gyfan dros y blynyddoedd.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]