Roedd ystafell festri’r Morfa yn orlawn yn cyfarfod Merched y Wawr Aberystwyth mis Ionawr lle cawsom wledd yn gwrando ar Mererid Hopwood yn ein hannerch.
Wedi i’n cadeirydd, sef Mererid arall, ei chyflwyno fel y llenor disglair a lwyddodd i gipio’r tair brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef y Goron, Y Prif Lenor a’r Gadair, cawsom ein cyfareddu gan ei dysg a’i gallu i drin geiriau drwy gyfathrebu mor glir a difyr.
Bu’n dyfynnu yn helaeth o neb llai na Dewi Pws i’r Beibl, o’r Almaeneg i’r Sanskrit gan ddiweddu gan egluro cân Yma o Hyd Dafydd Iwan gyda stori Macsen Wledig a’i wraig Helen.
Drwy hyn i gyd gallodd ddangos sut mae iaith yn rhoi ffenestr ar y byd a phwysigrwydd parhad ein hiaith a’n cyfrifoldeb ni i’w chadw. Noson wirioneddol gofiadwy.
Edrychwn ymlaen at wledd o fath arall ym mis Chwefror i ddathlu Gŵyl Ddewi yn Tamaid Da yng nghwmni Doreen Lewis.
Cofiwch y dyddiad: dydd Llun, 20 Chwefror.
Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]