YN agor rhaglen arddangosfeydd Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, am y flwyddyn 2017 yr wythnos diwethaf roedd artist ac athrawes leol Elin Huws ynghyd â rhai o’i chyn-fyfyrwyr sydd wedi cwblhau graddau mewn celf.

Fe ddaeth Elin Huws o Lanbedrog yn athrawes gelf yn Ysgol Botwnnog yn 2004 wedi iddi gwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Caeredin yn 2001.

Ac er ei bod yn athrawes lawn amser ac yn fam i ddau ifanc mae hi wedi parhau i gynhyrchu ac arddangos gwaith ar hyd a lled Cymru.

Mae ei hangerdd at gelf yn amlwg yn cael ei drosglwyddo i’w myfyrwyr gyda nifer ohonynt yn mynd ymlaen i ddilyn graddau celf mewn Prifysgolion led-led Prydain a thu hwnt.

Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau dydd Iau