Dewisodd Myfanwy Alexander osod ei nofel dditectif gyntaf, A Oes Heddwas?, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, ac mae Coblyn o Sioe, ei phumed nofel, hefyd wedi’i lleoli ar un o feysydd amlycaf Cymru.
Y Sioe Fawr – ac yn benodol, adran y ceffylau – yw cefndir y nofel hon, ac unwaith eto mae’r ditectif prysur Daf Dafis yn cael ei hun yn arwain achos sydd yn rhyfedd, a dweud y lleiaf, pan mae rhannau o gorff dyn yn cael eu darganfod mewn bocs o selsig yn y Neuadd Fwyd.
Medd Myfanwy: “Mi ddechreuais gofnodi anturiaethau’r Arolygydd Daf Dafis o Heddlu Dyfed Powys yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ei fod o’n lleoliad addas iawn ar gyfer llofruddiaeth o achos y trawstoriad o bobol o bob cornel o Gymru sy’n cwrdd ar y Maes.
“Am y tair nofel nesaf, roedd Daf yn brysur yn ei filltir sgwâr yn Sir Drefaldwyn, ond erbyn hyn ro’n i awydd dod o hyd i gefndir newydd iddo fo: digwyddiad eiconig arall yng nghalendr y genedl, sef y Sioe Fawr.
“Dwi wastad wedi mwynhau’r Sioe (er, fel rhiant, bod giamocs y Pentre Ieuenctid yn peri cymaint o ofid i mi), ond ges i gyfle i ddysgu dipyn bach mwy amdani pan oedd Sir Drefaldwyn yn Sir Nawdd.
“Mae’r Sioe yn ffenomen: yn ffenest siop i’r diwydiant amaeth, yn sbri, yn gyfle i bobol ddatblygu neu ymestyn eu rhwydweithiau, yn fusnes ac yn bleser.
“A’r tu mewn i’r Sioe, mae sawl diwylliant gwahanol, o’r trafodaethau call am bys pêr ben bore i’r sgwrs ola dros y pymthegfed jinsen ym mar y Welsh Pony and Cob Society.
“Dwi’n gobeithio ’mod i wedi rhoi blas o fyd cyfoethog ac unigryw y Sioe yn y nofel hon.”
Mae llawer iawn o ddarllenwyr nofelau Myfanwy wedi dotio at Daf Dafis – yr heddwas golygus, rhywiol sy’n gwneud popeth yn Gymraeg – ac mae’r awdur ei hun o’r un farn!
"Dwi wedi syrthio dros fy mhen a’m clustie mewn cariad efo Daf Dafis," cyfaddefa Myfanwy, "a dwi'n mwynhau treulio amser yn meddwl amdano fo.
"Mae o'n ddyn da heb fod yn sant, ac er ei fod o bob tro yn ceisio gwneud ei orau glas, dydi o ddim bob tro yn llwyddo.
"Hefyd, er gwaetha’i gryfder, yn y nofel hon mae o’n ysu i gael ei dderbyn gan gymuned Bryn y Ceffylau. Roedd yn hwyl cael ei roi o mewn sefyllfa lle roedd o chydig allan o’i comfort zone!"
Mae Coblyn o Sioe ar gael ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.