CYNHALIWYD cystadleuaeth Aelod y Flwyddyn CFfI Cymru ar ddydd Sul, 18 Mawrth, gydag aelodau o bob cwr o gefn gwlad Cymru yn teithio i Bort Talbot er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth fawreddog.
Ar ôl cryn drafodaeth gan y panel o feirniaid, Geraint Lloyd, Diana Davies a Stephen James, dyfarnwyd teitl Aelod Hyn y Flwyddyn i Cennydd Jones o CFfI Pontsian.
Dyfarnwyd teitl Aelod Iau’r Flwyddyn i Alaw Mair Jones o CFfI Felinfach. Fe wnaeth Alaw hefyd argraff ar y tri beirniad, Malcolm Thomas, Nia George a Kate Miles, gyda’i chyflwyniad addysgiadol.
Meddai Dewi Parry, cadeirydd Pwyllgor Cystadlaethau CFfI Cymru: “Braf yw cael gweld enillwyr yr Aelod Iau a Hyn o Geredigion. Unwaith eto, roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn ymysg yr aelodau a gymerwyd rhan, a ddylai’r holl aelodau ymfalchïo yn yr hyn maent wedi ei gyflawni.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r ddau aelod dros y 12 mis nesaf a’u croesawu i fod yn rhan o’r tîm swyddogion. “
Unwaith eto, noddwyd y gystadleuaeth gan JCP Solicitors ac yn ddiolchgar iddynt am eu nawdd caredig i gefnogi’r ffederasiwn ac yn arbennig i Rory Hutchings a gynrychiolodd y cwmni wrth rannu’r gwobrau i’r enillwyr yn y seremoni wobrwyo.
Bydd y ddau Aelod y Flwyddyn yn llysgenhadon ar gyfer CFfI Cymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan eu penodi fel un o swyddogion y sefydliad i gynorthwyo yn ystod digwyddiadau amrywiol.