MAE camerâu S4C wedi dilyn y gomediwraig Kiri Pritchard-McLean, y cogydd Chris ‘Flameblaster’ Roberts a’r cyflwynydd Alun Williams ar daith fythgofiadwy o amgylch Seland Newydd.

Cafodd y tri wyneb cyfarwydd agoriad llygad wrth iddyn nhw brofi’r cariad oedd at Gymru ym mhen arall y byd.

Bydd eu hanturiaethau i’w gweld mewn cyfres newydd, Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd a ddechreuodd ar S4C ddoe ac fydd hefyd i'w weld ar S4C Clic a BBC iPlayer. 

Yn y gyfres mae’r tri yn hedfan i Seland Newydd i brofi’r hyn sydd gan y wlad brydferth i’w chynnig, a chael ambell i brofiad newydd.

Mae llawer yn gyffredin rhwng y ddwy wlad – cariad at rygbi, ffermio defaid a’n tirwedd dramatig - ond yr hyn wnaeth argraff ar y tri yw’r cysylltiad arbennig mae trigolion Seland Newydd yn ei deimlo â Chymru.

Er bod Kiri yn enw Māori, a’i mam wedi byw yn y wlad am gyfnod, doedd hi erioed wedi ymweld â’r lle: “Roedd gan y bobl cymaint o falchder yn eu gwlad fach a’r iaith Māori. Yno, mae Cymru’n cael ei ddefnyddio fel esiampl dda – pan maen nhw’n sôn am y defnydd o enwau Māori ar arwyddion ac ati.

“Yn aml ym Mhrydain, mae Cymru’n butt of the joke, felly roedd mor hyfryd bod nhw’n deall cymaint am ein gwlad ni – a bod dim rhaid i ni esbonio fod Cymru’n wlad sydd drws nesa’ i Loegr.

“Roedden nhw’n gwybod am ein diwylliant, ac yn deall bod ni’n ei ddathlu.

“Roedd ymweliad i Ganolfan dreftadaeth Māori Te Puia yn Rotorua yn brofiad arbennig iawn wnaeth rili gyffwrdd y tri ohonon ni - gan fod ni gyd yn deall sut beth ydi o i ddod o wlad sydd efo marginalised culture roedden ni’n falch ohono, ac yn deall bod o angen cael ei warchod.”

Dyma’r tro cyntaf hefyd i Alun a Chris ymweld â Seland Newydd.

Meddai Alun: “Roedd o mor annisgwyl bod ni ddim wedi gorfod egluro wrth un person lle roedd Cymru.

“Dwi’n meddwl falle bod 'na rywbeth am deimlad o undod rhwng gwledydd bach. Fydden ni ddim yn cael yr un ymateb yn Awstralia o bosib.”

Y croeso a’r cynnyrch oedd yn mynd â bryd y cogydd o Gaernarfon Chris Roberts: “Roedd safon y bwyd, a’r parch at eu cynnyrch yn swpyrb.

“Odd pawb yn gwybod am Gymru lle bynnag oddan ni’n mynd, a gathon ni brofiadau mor cŵl, a nathon ni gyd yrru mlaen mor dda a gathon ni gymaint o hwyl. Ro’n i’n nabod Kiri cynt, ond dim ond wedi gweld Alun ar soffa Heno.”

“Yn fuan iawn nes i sylwi bod y jôc ar fy mhen i - fel pan aethon ni i nofio gwyllt; doedd dim dillad nofio ganddon ni ac roedd Kiri wedi ffeindio rhyw speedos bach (iawn) i fi.” ychwanega Alun.

“Doedden ni erioed wedi cwrdd o’r blaen. A dwi’n meddwl mai dyna rhan o’r syniad am y gyfres - bod tri pherson hollol wahanol yn dod at ei gilydd ac yn cael profiadau newydd.

“Lwcus iawn bod y tri ohonon ni wedi clicio’n syth. Roedd hi’n daith lythrennol ac yn daith emosiynol. Y daith yma ydi un o’r pethau gorau i mi wneud erioed” ychwanega Alun.

Mae teithio dros amser gyda’r ddau Gymro Cymraeg hefyd wedi rhoi ‘hyder newydd’ i Kiri ddefnyddio’i Chymraeg o ddydd i ddydd: “Fel dysgwr Cymraeg roeddwn i’n nerfus i fynd ar y daith, ond wnaeth yr holl brofiad wneud i mi sylweddoli fod gen i lawer gwell perthynas efo’r iaith nad o’n i’n ei feddwl.

“Wnaeth o roi llawer o hyder i mi ei siarad, ac roedd y gwahaniaeth rhwng safon fy Nghymraeg ar ddechrau a diwedd y daith yn anferth.”

Yn y bennod gyntaf mae’r daith yn cychwyn yn Queenstown, tref yn Ynys y De sydd â chysylltiad annisgwyl â Chymru, cyn mynd yn eu blaen i un o brofiadau antur enwocaf y wlad, y Nevis Swing.

Yna, ymlaen am Dunedin, lle mae’r tri yn mwynhau sesiwn blasu cwrw yn Speights Brewery, bragdy hynaf ac enwocaf y wlad, cyn rhoi cynnig ar seiclo i fyny Stryd Fwyaf Serth y Byd.